Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
CN415
Enw
Ffordd Haearn Chwarel Llechi Penrhyn  
Dyddiad Dynodi
09/08/2021  
Statws
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Gwynedd  
Cymuned
Llandygai  
Dwyreiniad
260230  
Gogleddiad
369640  

Dosbarthiad bras
Cludiant  
Math o Safle
Rheilffordd  
Cyfnod
Diwydiannol  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae’r heneb yn cynnwys gweddillion creiriol Ffordd Haearn Chwarel Llechi Penrhyn, a ddatblygwyd i gario llechi o Chwarel y Penrhyn, Bethesda i felinau llechi Felin Fawr ac ymlaen oddi yno i Borth Penrhyn, Bangor ar gyfer eu hallforio’n rhyngwladol. Roedd y rheilffordd tua 8km o hyd ac yn manteisio ar y graddiant cymharol gyson gydag ymyl afon Ogwen i lywio’r llwybr rhwng Bethesda a Bangor. Roedd y ffordd haearn wedi’i chwblhau erbyn 1801. Wedi’i hadeiladu fel system yn cael ei thynnu gan geffylau yn defnyddio wagenni ag olwynion dwbl-gantel ar gledrau haearn, roedd yn defnyddio technolegau a oedd wedi’u datblygu o fewn system fewnol chwarel y Penrhyn a fyddai’n datblygu’n safon ar draws chwareli llechi’r Gogledd, fel y cledrau 2’. Hi oedd y ffordd haearn gyntaf o’i math yn y diwydiant, wedi’i datblygu ar adeg pan oedd mwyafrif y chwareli’n defnyddio pynfeirch i gludo deunydd i’r ddyfrffos fordwyol agosaf, i gael eu hallforio o lanfa afon. Cynlluniwyd y ffordd haearn gan Thomas Dadford, peiriannydd o Ganolbarth Gorllewinol Lloegr. Credir bod y defnydd anarferol o dri phlân ar oleddf - Marchogion, Dinas a Ty’n Y Clwt – yn brawf o gefndir Dadford mewn adeiladu camlesi. Parhaodd y ffordd haearn i gael ei defnyddio tan 1879 pan gafodd ei disodli gan injan stêm Rheilffordd Chwarel y Penrhyn (CN417) a oedd yn defnyddio llwybr mwy anuniongyrchol, nad oedd yn gofyn am blaniau ar oleddf, rhwng Melinau Slabiau Felin Fawr a Phorth Penrhyn. Mae’r ffordd haearn yn goroesi heddiw ar ffurf pum rhan greiriol. Ardal A: Inclein Ty’n Y Clwt i Fythynnod Bron Ogwen, Adran B - Inclein Dinas i Bont Halfway House, Adran C - Lôn Isaf i Dyddyn Iolyn, Adran D – yr A55 i Bentref Llandygai ac Adran E - Home Farm i Draphont Cegin. Ardal A: Inclein Ty’n Y Clwt i Fythynnod Bron Ogwen. Mae pen deheuol adran A yn cynnwys rhan fer o’r ffordd haearn wedi’i thorri yn y graig a gweddillion claddedig plân goleddfol Ty’n Y Clwt a’r tŷ weindio. Roedd gwastraff llechi wedi’i dipio dros yr inclein cyn i fap Argraffiad Cyntaf yr Arolwg Ordnans (1889) gael ei argraffu, a heddiw dim ond yr ychydig fetrau isaf sydd i’w gweld fel arglawdd isel o gerrig rwbel, gyda llwybr troed yn rhedeg i’r Gorllewin o Dan Ysgafell yn torri ar ei draws. I’r Gogledd o’r llwybr troed, mae’r rhan 150m nesaf o’r rheilffordd yn iard gynnull mewn cyflwr da sy’n cynnwys glanfeydd solet wedi’u hadeiladu o gerrig. Caiff yr ardal hon ei darlunio ar arolwg 1875 gan Spooner ac mae’n dangos seidins ac adeiladau eraill nad yw eu defnydd yn hysbys. Er na ellir yn hawdd gweld yr adeileddau ategol hyn dylid ystyried bod yr ardal yn parhau i fod â photensial archeolegol sylweddol. Mae’r trefniant yn parhau i’r Gogledd-gogledd-orllewin am 380m ymhellach, gan yn rhannol ffurfio trac i Tyn Y Clwt Isa ac yna’n ffurfio llwybr troed bach nes cael ei gynnwys o fewn gerddi Bythynnod Bron Ogwen. Ardal B: Inclein Dinas i Bont Halfway House. Mae ymlediad deheuol Ardal B yn gyfagos i Rheilffordd ddiweddarach Chwarel y Penrhyn (CN417), a chredir bod ei hadeiladu wedi dinistrio tŷ weindio inclein Dinas. Mae stratigraffeg weledol pen uchaf yr inclein yn dangos y ffordd y mae rhai elfennau o’r ffordd haearn wedi’u hymgorffori yn y rheilffordd ddiweddarach. Mae gweddillion byrhoedlog Dinas yn goroesi fel gwrthglawdd isel sy’n croesi’r caeau i’r De-ddwyrain o Fferm Dinas ar ongl letraws i oleddf naturiol y bryn. Mae pont yn cario Ffordd Y Lord ar draws yr inclein ac mae’n weledol eto fel trychiad llawn tyfiant i’r De o Ben Isa’r Allt (‘pen isaf y plân goleddfol’). Mae’r trefniant wedi’i gladdu’n rhannol gan adeiladwaith gwaith trin dŵr gerllaw ond mae’n goroesi ar ei wyneb Dwyreiniol fel clawdd cerrig wedi’i adeiladu’n dda tan iddo ddod yn silff hawdd ei diffinio wedi’i thorri yn y graig gyda waliau ataliol sylweddol yn ei chynnal uwchben afon Ogwen. Mae’r rheilffordd yn ymestyn rhyw 300m i’r Gogledd lle mae’n troi i’r Gorllewin i groesi Ffordd Tregarth ar y gyffordd â Phont Halfway House ond a ddinistriwyd wedi hynny gan welliannau ffordd diweddarach. Ardal C: Lôn Isaf i Dyddyn Iolyn. Mae Ardal C yn cynnwys 900m dolennog o ffordd haearn sy’n goroesi fel gwrthglawdd mewn tir pori i’r Dwyrain o Lôn Isaf. Mae’r trefniant wedi’i ddiffinio’n glir ar ei hyd ac mae mewn cyflwr cymharol dda. Mae’r rhan ganol yn goroesi fel gwrthglawdd sylweddol gyda cherrig yn erydu o’r arwyneb Dwyreiniol. Mae nifer o waliau caeau yn bodoli yn hanner deheuol ardal B tra mae’r rhan ogleddol yn goediog iawn. Yn Nhyddyn Iolyn mae’r trefniant wedi’i gynnwys o fewn i erddi ac yna’n goroesi fel gwrthglawdd bychan yn unig yn y caeau i’r gogledd, i’w weld yn gliriach os defnyddir LiDAR (technoleg sganio laser o’r awyr). Ardal D: yr A55 i Bentref Llandygai. I’r gogledd o’r A55 mae’r trefniant yn goroesi fel gwrthglawdd isel tua 550m o hyd mewn cyflwr da sy’n raddol ddod yn fwy sylweddol a diffiniedig ar y pen gogleddol. Mae deunydd y clawdd i’w weld in situ ar hyd darnau o’r wyneb Dwyreiniol. Mae’r wyneb Gorllewinol yn weledol ar LiDAR er gwaethaf erydu o ganlyniad i aredig hanesyddol. Mae llwybr troed cyhoeddus a ffin cae hanesyddol wedi bod o help i sicrhau parhad y darn hwn ond i’r Gogledd o’r Bryn fel llwybr ffosiliedig y mae’r ffordd haearn yn goroesi. Ardal E: Home Farm i Draphont Cegin. O fewn Ardal E y mae rhai o elfennau Ffordd Haearn Chwarel Llech'r y Penrhyn sydd wedi goroesi yn y cyflwr gorau. I’r Gogledd-orllewin o Home Farm mae pont fach yn cario’r brif ffordd i Fangor dros drefniant y ffordd haearn. Mae’r trefniant yn dod allan o gloddiad cul i’r Dwyrain o’r ffordd ac yn dilyn wyneb Gorllewinol wal Stâd y Penrhyn am tua 500m i’r gogledd tan iddo gyrraedd Bwthyn yr Inclein (Cyfeirnod Adeilad Rhestredig 4085). Wedi’i leoli ar ben Inclein y Marchogion, Bwthyn yr Inclein oedd tŷ weindio gwreiddiol Inclein y Marchogion. I’r gogledd o’r bwthyn, mae Inclein y Marchogion yn cysylltu darn cyfuchlinol y ffordd haearn â darn Afon Cegin sydd tua 20m yn is. Hi yn ddi-os yw’r orau ei chyflwr o’r incleins sydd wedi goroesi ac mae ei pharhad yn unigryw, wedi ei chynllunio ar gyfer gweithredu gwrthbwys a hefyd ar gyfer halio i fyny gan geffyl chwimsi cyfagos. Mae rhan uchaf Inclein y Marchogion yn cynnwys adeiladwaith llechi a phridd anferth yn yr ardd i’r Gogledd o Fwthyn yr Inclein sy’n codi i lefel llawr cyntaf lle y byddai wedi rhyngweithio gyda’r peirianwaith weindio. Mae wyneb dwyreiniol y darn hwn wedi’i golli ac yn cael ei rannu’n ddau gan dramwyfa i Fwthyn yr Inclein. Oddi yma, mae’r inclein yn goroesi fel cloddiad llawn tyfiant mewn cyflwr da sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r trac sy’n cysylltu Bwthyn yr Inclein â Nursery Cottage. Mae’r darn olaf yn goroesi fel adeiledd creiriol mewn cyflwr da mewn coetir trwchus. Ar waelod yr inclein mae’r ffordd haearn yn cysylltu â Phont y Marchogion, pont garreg un bwa gydag olion o gyfnodedd a allai fod wedi cario ffordd wedi’i chodi i’r Gogledd-ddwyrain yn ogystal â ffordd haearn ar silff is yn erbyn yr wyneb De-orllewinol. Oddi yma mae’r ffordd haearn yn parhau ar hyd silff wedi’i chynllunio’n dda am 250m ymhellach ar lan orllewinol Afon Cegin tan iddi gyrraedd Traphont Cegin (Cyfeirnod Heneb Restredig CN380), o bosib y bont ffordd haearn aml-fwa hynaf yn y byd. Mae’r heneb o bwysigrwydd cenedlaethol oherwydd ei photensial i gynyddu ein dealltwriaeth o’r diwydiant chwarelu llechi, yn benodol datblygiad systemau cludiant a datblygiad allforio rhyngwl. Ffordd Haearn Chwarel y Penrhyn baratôdd y ffordd ar gyfer Rheilffordd Ffestiniog a phob un o’i disgynyddion wedi hynny. Ar adeg ei hadeiladu, hi oedd y system rheilffordd ar draws tir hiraf yn y byd. Mae nifer o’r rhannau creiddiol sydd mewn cyflwr da wedi goroesi’n gyfan, yn ogystal ag adeileddau enfawr fel Pont y Marchogion. Mae’r darnau gwaeth eu cyflwr a’r rhai sy’n goroesi fel gwrthgloddiau isel yn parhau i fod â photensial archeolegol sylweddol. Mae’r ardal restredig yn cynnwys y gweddillion a ddisgrifiwyd ac ardal o’u cwmpas y gellir disgwyl i dystiolaeth berthnasol fod wedi goroesi o’i mewn. Mae’r ardal restredig wedi’i rhannu’n 5 polygon llinol sy’n cwmpasu llinell y rheilffordd a’r adeileddau cysylltiedig. Mae lled Ardal A yn amrywio rhwng 3 a 20m a’i hyd tua 650m ac mae’n gyfeiriedig i’r Gogledd-gogledd-orllewin - De-de-ddwyrain rhwng NGR 261330, 366730 a 261100, 367340. Mae lled Ardal B yn amrywio rhwng 1 a 9m ac mae tua 660m o hyd rhwng 261000, 368370 a 260730, 368950, mae hanner ddeheuol yr ardal yn gyfeiriedig i’r Gogledd-orllewin - De-ddwyrain a’r hanner ogleddol yn gyfeiriedig i’r Gogledd-De. Tua 10m yw lled Ardal C a thua 900m yw ei hyd ac mae’n gyfeiriedig, ar y cyfan, i’r Gogledd-De rhwng 260160, 369230 a 259780, 369880. Tua 10m yw lled Ardal D ac mae’n 550m o hyd ac yn gyfeiriedig i’r Gogledd-De rhwng 259770, 369930 a 259740, 370450. Mae Ardal E sydd, ar y cyfan, yn gyfeiriedig i’r Gogledd-De rhwng 259380, 3371360 a 259270, 372360, yn amrywio rhwng 4 a 12m o led ac yn cynnwys dau ddarn - mae’r darn i’r dde o Fwthyn yr Inclein tua 580m o hyd a’r darn i’r gogledd o Fwthyn yr Inclein tua 500m o hyd.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio