Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
CN419
Enw
Chwarel Pen Y Bryn a thipiau  
Dyddiad Dynodi
05/04/2023  
Statws
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Gwynedd  
Cymuned
Llanllyfni  
Dwyreiniad
250510  
Gogleddiad
353740  

Dosbarthiad bras
Diwydiannol  
Math o Safle
Chwarel  
Cyfnod
Diwydiannol  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae Chwarel Lechi Pen y Bryn wedi’i lleoli ar lethrau gogleddol Dyffryn Nantlle i’r Gogledd-ddwyrain o Chwarel Lechi Cloddfa’r Lôn (CN302) ac i’r Gogledd-ddwyrain o System Bwmpio Gyriant-dŵr Pen y Bryn / Cloddfa’r Lôn (CN418). Ar ei phrysuraf, roedd y chwarel yn waith gwasgaredig, yn gwneud defnydd o nifer o gloddfeydd ac ar un cyfnod yn tipio gwastraff o fewn Chwarel Dorothea (CN199). Heddiw, mae gweddillion y chwarel wedi’i gosod allan ar draws safle cymharol gryno o adeileddau creiriol, system dramffordd fewnol fer a nifer o domenni anferth. Gellir olrhain dechreuadau Pen y Bryn i tua 1770 gyda’r llechi’n cael eu gweithio yn yr Hen Dwll. Yn ystod yr 1830au dechreuodd y chwarel wneud defnydd arloesol o incleins cadwyn a defnyddio blondins ar draws ei gweithgareddau, yn y pen draw yn gweithio 4 cloddfa – gan gynnwys Cloddfa’r Lôn, Twll Mawr a Thwll Balast – gyda chludiant i fyny i ardal y felin. Wedi 1836 roedd y chwarel yn eiddo i Dorothea a chaeodd ar ddiwedd yr 1890au; erbyn hynny roedd yn cyflogi mwy na 240 o ddynion ac yn cynhyrchu allbynnau o fwy na 5,000 tunnell y flwyddyn. Parhaodd ychydig weithio ar raddfa fechan tan yr 1940au ond mae’r adeileddau creiriol i’r Gogledd-ddwyrain o’r safle yn dal i fod yn bur debyg i’r portread ohonynt ar fap argraffiad cyntaf yr Arolwg Ordnans 1889. Mae rhan ogleddol y safle yn cynnwys gweddillion cloddfa uchaf y chwarel, tair mynedfa, tai pwyso a thair tomen wastraff nodedig. Mae system dramffordd fewnol yn cysylltu’r ardal hon â’r domen gwastraff llechi dwyreiniol anferth sy’n tra-arglwyddiaethu ar y dyffryn. Mae gwastadedd ar inclein serth yn cysylltu’r lefel uchaf â’r ardal brosesu. Mae’r inclein yn dal i gadw gweddillion tŷ weindio di-do ynghyd â’r wagenni a’r ceblau cysylltiedig. Mae’r ardal brosesu wedi ei chysylltu â chloddfa uchaf y chwarel gan dwnnel byr â gogwydd Gogledd-De sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r inclein. Mae iard domenni ar ben gorllewinol yr ardal hon wedi ei chuddio’n rhannol gan waith eilaidd a thipio. Mae’r ardal brosesu yn dal i gadw melin hydredol ynghyd â nifer o adeiladau ategol yn cynnwys efail, tŷ’r injan a gwaliau lawer. Mae cofnodion yn nodi bod rhagor o nodweddion archeolegol wedi goroesi ar ben Gorllewinol y safle ond bellach maent wedi’u lled gladdu mewn gwastraff llechi. Mae’r felin yn 60m o hyd a 15m ar ei thraws ac wedi cadw waliau o slabiau llechi ar bob ochr gyda’r pen talcen gorllewinol wedi goroesi yn ei lawn uchder. Mae gan ben gorllewinol y felin dŷ weindio yn sownd iddo, gyda'r drwm ac offer brecio yn eu lle gwreiddiol. Mae’r tŷ weindio wedi’i leoli ar gopa inclein ymadael sylweddol sy’n cysylltu â Rheilffordd Nantlle (CN420) 200m i’r De o’r chwarel. Dyma lle’r oedd pen draw’r lein cyn i chwarel Pen yr Orsedd gael ei datblygu. Mae’r gofeb o ddiddordeb cenedlaethol fel rhan o grŵp o rai o’r chwareli llechi creiriol gorau eu cyflwr yn Nyffryn Nantlle. Mae’r tomenni gwastraff llechi yn creu tirwedd o bwys oherwydd eu graddfa nodedig, ond mae gweddillion y chwarel hefyd mewn cyflwr da ac yn parhau i gadw perthnasau eglur a gweithredol. Mae i’r chwarel botensial archeolegol sylweddol, gyda phresenoldeb agweddau archeolegol neu waddodion yn dra thebygol. Mae’r ardal restredig yn cynnwys y gweddillion a ddisgrifir ac ardal o’u cwmpas lle y disgwylir i ragor fod wedi goroesi. Polygon afreolaidd o 9.748 hectar yw’r ardal a ddynodir. Mae’r ardal yn mesur 575m Gogledd Gogledd-0rllewin - De De-Ddwyrain wrth 395m ar draws ac yn canoli ar NGR 250510, 353740.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio