Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
CN425
Enw
Chwarel llechi Cwmorthin, cloddfa, rheilffordd ac arweddion ategol  
Dyddiad Dynodi
24/06/2021  
Statws
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Gwynedd  
Cymuned
Ffestiniog  
Dwyreiniad
268194  
Gogleddiad
346423  

Dosbarthiad bras
Diwydiannol  
Math o Safle
Chwarel  
Cyfnod
Diwydiannol  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae’r heneb yn cynnwys gweddillion Chwarel Cwmorthin, chwarel lechi fawr dan ddaear a thirffurf chwarel wedi’i leoli i’r gorllewin o Flaenau Ffestiniog rhwng Cwmorthin a phentref Tanygrisiau, ynghyd â’r adeiladau sydd ar yr wyneb, incleins, tipiau gwastraff a rheilffordd chwarel. Mae’r chwarel wedi’i lleoli rhwng Chwarel yr Oakeley (CN422) i’r gogledd a Chwarel Wrysgan (CN423) i’r de. Hi yw’r chwarel greiriol fwyaf o’i math yn yr ardal. Sefydlwyd Cwmorthin ym 1810 fel chwarel agored ond datblygodd yn waith dan ddaear yn ystod yr 1860au yn dilyn adeiladu cysylltiad â Rheilffordd Ffestiniog. Ym 1882 roedd y chwarel yn cyflogi mwy na 500 o ddynion ac yn defnyddio 3 melin yn cynnwys cyfanswm o 50 o lifiau a 50 o beiriannau trin/naddu. Ym 1900 cafodd y chwarel ei chymryd drosodd gan ei chymdoges, Chwarel yr Oakeley, ond parhaodd y ddwy inclein i gael eu defnyddio tan 1902. Goroesodd y gwaith dan ddaear tan 1939, gyda pheth ail-weithio ar yr wyneb yn digwydd i mewn i’r 1980au. Mae’r ardal ddynodedig wedi’i rhannu’n dair rhan: Chwarel Lechi Cwmorthin ac Ardal Brosesu’r Gogledd (Ardal A), Teras Cwmorthin, Capel Tiberias a Thomenni’r Gorllewin (Ardal B) a Thomenni’r De, Incleins y Chwarel a Rheilffordd y Chwarel (Ardal C). Ardal A: Chwarel Lechi Cwmorthin ac Ardal Brosesu’r Gogledd. Mae hanner ddwyreiniol Ardal A yn cynnwys cymaint o ehangder y chwarel dan ddaear ag sy’n wybyddus - wedi'i osod allan dros 12 llawr gan fanteisio ar y gwythiennau Hen a Du yn y ffurfiant Ordofigaidd. Yn ystod y cyfnod gweithredu roedd y gwaith yn cael ei gadw’n rhydd o ddŵr trwy bwmpio a draenio parhaus ond heddiw mae llawer o’r gwaith dan ddŵr neu wedi dymchwel, a dim ond Lloriau A - E sy’n bosibl eu cyrraedd bellach. Mae lloriau’r gwaith a’r siambrau a oedd yn cael eu gweithio oddi arnynt yn dal i fod mewn cyflwr rhyfeddol o dda gan na wnaeth gweithgarwch chwarelu modern darfu arnynt. Mae grisiau slabiau llechfaen ac incleins yn cysylltu llawer o’r safleoedd gweithio ac yn cynnwys inclein trac-sengl anarferol, a elwir yn Inclein yr Wythïen Ddu, sy’n cysylltu lefel y llyn a Llawr E. Mae gan Lawr E gyfoeth o arteffactau sydd wedi goroesi, yn eu plith nifer fawr o wagenni, cywasgwr ynghyd â’i danciau oeri, drymiau troelli in situ a chynhalbost pwli o fath craen unigryw. Ar yr wyneb, mae Ardal A yn cynnwys nifer o incleins byr yn dod allan o’r safleoedd gweithio dan ddaear, rhai ohonynt â thai peiriant weindio ar eu terfyn. Wrth droed yr incleins mae tystiolaeth o gaboli â llaw ar ffurf gwaliau wedi’u hamgylchu gan bentyrrau o wastraff llechi mân. Mae sylfeini Llyn y Felin yn goroesi ochr yn ochr â Thŷ Cwmorthin, tŷ a gardd y rheolwr ac adeiladau atodol eraill cysylltiedig â’r chwarel a’r rheilffordd. Y blaenau bysedd gwastraff nodweddiadol sy’n ymestyn i’r llyn sy’n diffinio terfyn gorllewinol Ardal A a threfniant y rheilffordd sy’n diffinio hyd a lled y de. Ardal B: Teras Cwmorthin, Capel Tiberias a Thomenni’r Gorllewin. Ar ben deheuol y llyn, mae Ardal B yn cynnwys prif farics y chwarel, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Teras Cwmorthin neu Tai Llyn. Mae’r rhes drawiadol hon o fythynnod creiriol wedi cadw tai allan bychain i’r cefn a gerddi yn wynebu’r llyn i’r gogledd. Mae’n adeiladwaith mewn dau gyfnod - y pen gorllewinol wedi’i adeiladu o gerrig gwlad a’r dwyreiniol o flociau llechfaen. Mae gweddillion y capel annibynnol wedi’u lleoli 60m i’r gogledd-orllewin o’r barics gyda thomen ac inclein creiriol yn ffurfio hyd a lled Ardal B. Ardal C: Tomenni’r De, Incleins y Chwarel a Rheilffordd y Chwarel. Mae’r tomenni gwastraff llechi yn Ardal C yn gorchuddio llethrau deheuol Craig Nyth y Gigfran ac mae eu ffurf heddiw fel y darluniwyd hwy ar Fap Argraffiad Cyntaf Arolwg Ordnans 1888. Mae trefniant Rheilffordd Lechi Cwmorthin yn dramwyfa mewn cyflwr da, weithiau wedi’i thorri yn y graig, bryd arall yn defnyddio argloddiau wedi’u hatgyfnerthu. Mae’r system rheilffordd wedi cadw dau wastad goleddfol gwrthbwys creiriol – yr uchaf, Inclein Tai Muriau, a’r isaf, Inclein y Pentref sy’n mynd o dan yr isffordd i Ddolrhedyn. Mae’r ddau dŷ weindio wedi goroesi yn ogystal â rhai sliperi a cheblau. Mae’r heneb o bwysigrwydd cenedlaethol fel crair o’r diwydiant llechi mewn cyflwr da ac ar gyfrif ei botensial i gynyddu’n dealltwriaeth o’r diwydiant. Mae’r gwaith dan ddaear yn helaeth ac, o ystyried lefelau cadwraeth eithriadol yr ardaloedd y gellir mynd atynt, mae disgwyl i’r lloriau na ellir mynd atynt ar hyn o bryd fod â photensial archeolegol o bwys. Mae gweddillion creiriol yr wyneb yn Chwarel Cwmorthin wedi para’n gymharol debyg i’r hyn oeddent ar ddiwedd y 19eg ganrif, gyda’r chwarel yn cadw nifer o nodweddion pwysig ar raddfa-tirwedd. Mae’r ardal gofrestredig yn cynnwys y gweddillion a ddisgrifiwyd ac ardal o’u cwmpas a gellir disgwyl fod tystiolaeth berthnasol wedi goroesi yn yr ardaloedd hyn. Mae’r ardal gofrestredig wedi’i rhannu’n 3 rhan: polygon mawr afreolaidd yw Ardal A tua 900m o’r Gogledd i’r De wrth tua 750m ardraws ac yn canoli ar NGR 268194, 346423. Mae ei hanner ddwyreiniol wedi’i ddiffinio gan yr hyn sy’n wybyddus o hyd a lled y gwaith dan ddaear, gyda’r gorllewin yn cael ei ddiffinio gan derfynau gweledig y tomenni hanesyddol sydd wedi goroesi. Mae Ardal B wedi ei chanoli ar NGR 267924, 345875 ac mae’n bolygon afreolaidd tua 300m o’r Gogledd-orllewin i’r De-ddwyrain wrth tua 30m ardraws gyda pholygon 6m sgwâr ychwanegol wedi’i leoli 60m i’r Gogledd-orllewin o’r prif bolygon i gynnwys Capel Tiberias. Mae Ardal C wedi’i chanoli ar NGR 268258, 345703 ac mae’n bolygon mawr afreolaidd tua 580m o’r Gogledd i’r De wrth tua 400m ardraws gyda’r rheilffordd unionlin yn ymestyn 650m ymhellach o’r terfyn De-ddwyreiniol.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio