Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
GM637
Enw
Celfyddyd y Creigiau Cynhanesyddol yn Nhai'r Waun Isaf  
Dyddiad Dynodi
19/05/2023  
Statws
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Caerffili  
Cymuned
Nelson  
Dwyreiniad
310226  
Gogleddiad
193473  

Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Math o Safle
Carreg â Chwpan wedi'i nodi arni  
Cyfnod
Yr Oes Efydd  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae’r gofeb yn cynnwys panel mawr o gelfyddyd craig o farciau cwpan, o bosibl yn dyddio i’r Oes Neolithig Ddiweddar neu’r Oes Efydd Gynnar (2900-1600 CC). Mae’r panel wedi’i leoli ar esgair wastad yn estyn allan o rannau uchaf goleddf sy’n wynebu’r de-orllewin ac yn edrych dros gydlifiad Nant Ddu a Nant Cae-dudwg. Mae’r garreg o dywodfaen mân-ronynnog haenedig. Mae wedi’i lleoli yn nherfyn cae yn union i’r de o fynedfa cae hanesyddol. Mae’n mesur 3.6m Gogledd-gogledd-orllewin - De-de-ddwyrain, wrth 2.85m ar draws a 0.9m o uchder. Mae’r panel ar yr arwyneb uchaf ac yn cynnwys o leiaf naw deg tri o farciau cwpan, y mwyaf ohonynt yn mesur tua 80mm mewn diamedr a 60mm o ddyfnder; mae rhai o’r marciau cwpan yn ymddangos fel pe baent wedi’u trefnu yn fotiffau ar ffurf cilgant. Mae’r crynhoad mwyaf niferus o farciau cwpan ar yr ochrau gogleddol a dwyreiniol. Mae taeniad amlwg o ddeunydd carnedd yn ymestyn 4m i’r gorllewin ac 8m i’r de fel ardal wedi’i chodi ychydig. Esboniad posibl yw mai maen capan i feddrod cellog o’r Oes Neolithig yw’r garreg â’r marciau cwpan, ac mai cofeb o hen feddrod yw hon. Mae’r gofeb o bwysigrwydd cenedlaethol oherwydd ei photensial i gynyddu ein gwybodaeth am gymdeithas yn y cyfnod cyn-hanesyddol. Ychydig iawn o safleoedd celfyddyd craig cyn-hanesyddol sydd yng Nghymru. Mae’r enghraifft hon yn drawiadol oherwydd y nifer fawr o farciau cwpan, a’u heglurder. Nid yw’n glir beth oedd gwir ystyr a phwrpas y cynllun marciau cwpan; mae’n dal i fod yn ddirgelwch. Mae nifer helaeth o ddehongliadau wedi’u hawgrymu. Efallai iddynt weithredu fel marcwyr llwybr neu i nodi terfynau tiriogaeth. Ar y llaw arall, gall eu cysylltiad â defodau neu gofebau angladdol cyfagos (Carneddi Llwydion (GM302) a maes carnedd ar Fynydd Eglwysilan (GM352)), awgrymu ystyr cysegredig i’r rhai a’u lluniodd ac a fu’n edrych arnynt fel rhan o dirlun defodol. Mae’r gofeb yn ffurfio rhan o grŵp ehangach yn ne-ddwyrain Cymru ac iddi werth grŵp pwysig gyda’r ddwy enghraifft restredig ar Gomin Mynydd Eglwysilan (GM628). Mae’r ardal gofrestredig yn cynnwys yr olion a ddisgrifir a’r ardal o’u cwmpas sy’n cynnwys, o bosibl, dystiolaeth berthnasol wedi goroesi. Ar y cynllun mae’n sgwâr ei ffurf, yn mesur 8m Gogledd-gogledd-orllewin – De-de-ddwyrain ac wedi’i ganoli ar OS NGR ST 10224 93476.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio