Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
GM135
Enw
Castell y Barri  
Dyddiad Dynodi
27/02/1950  
Statws
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Bro Morgannwg  
Cymuned
Barry  
Dwyreiniad
310080  
Gogleddiad
167195  

Dosbarthiad bras
Domestig  
Math o Safle
Maenor  
Cyfnod
Canoloesol  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae’r heneb yn cynnwys adfeilion maenordy caerog bach neu gastell y teulu de Barry. Fe’i hadeiladwyd yn yr 13eg a’r 14eg Ganrif OC dros gastell gwaith daear canoloesol cynt. Erbyn diwedd y 13eg ganrif roedd gan y castell ddau adeilad carreg ar ochrau dwyreiniol a gorllewinol yr iard, ond nid oes unrhyw beth yn bodoli bellach o’r rhain uwchben y ddaear. Yn gynnar yn y 14eg ganrif cryfhawyd y castell drwy ychwanegu neuadd a phorth mawr ar yr ochr ddeheuol, a’r adfeilion hyn y gellir eu gweld heddiw. Mae bwâu yn nhramwyfa’r porth, gyda rhigol porthcwlis ar yr ochr ddwyreiniol. Yn ogystal â phorthcwlis roedd ganddi bont godi a drysau dwbl. Ystafell fach uwchben, y mae ei wal allanol a ffenestr bwa wedi goroesi, oedd yn cynnal winsh y porthcwlis a hefyd y capel yn ôl pob tebyg. Y tu ôl i giât y dramwyfa mae ystafell hirsgwar gyda grisiau wedi’u rhwystro yn y gornel de-ddwyreiniol a thwll saethau yn y wal ddwyreiniol. Mae waliau’r neuadd i’r gorllewin yn llawer is, gyda phorth bwa isel a thwll saethau ar yr ochr orllewinol. Roedd y neuadd ei hun ar y llawr cyntaf, ac yn cael ei gwresogi gan le tân ar fur y gogledd. Roedd grisiau murol cul yn y gornel de-ddwyreiniol yn arwain at rodfa ben clawdd ar fur y llenni, a drws, sydd â’r rhan isaf yn y golwg, yn y mur dwyreiniol yn arwain at y siambr/capel porthcwlis. Mae tystiolaeth bod to llechi Cernyw ar y neuadd a theils crib sgleiniog gwyrdd. Mae’r heneb o bwysigrwydd cenedlaethol fel preswylfa faenorol amddiffynnol wedi’i dogfennu o’r cyfnod canoloesol. Mae’r castell yn elfen bwysig yn y cyd-destun canoloesol ehangach, ac mae ganddo’r potensial i wella ein gwybodaeth o dirwedd setliad a threfniant canoloesol. Gellir disgwyl i’r strwythur ei hun gynnwys gwybodaeth archeolegol mewn perthynas â chronoleg, technegau adeiladu a manylion. Mae ganddo’r potensial i wella’n gwybodaeth o bensaernïaeth ddomestig ac amddiffynnol ganoloesol. Mae’r ardal gofrestredig ddiwygiedig yn cynnwys yr adfeilion a ddisgrifir ac ardaloedd o’u cwmpas ble y gellir disgwyl i dystiolaeth gysylltiedig oroesi. Mae o siâp petryal ac yn mesur 28.2 metr dwyrain-gorllewin a 16.3 metr gogledd-de.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio